|
Cyfarfod Agored, Nos Fawrth -
Mawrth 20, Theatr Felin-fach - 8.00 o’r gloch. Cynrychiolwyr... AERON
VALLEY CHEESE - yr FUW a’r NFU - LLYWODRAETH Y CYNULLIAD - FIRST MILK -
LLAETH CYMREIG - CYNGOR SIR CEREDIGION + ELIN JONES A.C – ac YMGYNGHORWYR LLAETH ANNIBYNNOL
Dan arweiniad... DYLAN IORWERTH
Adroddiadau o'r cyfarfod: Ffatri Gaws: Cyfarfod Argyfwng | Meeting vows to save cheese plant
Chwefror 26ain, 2007: Cafwyd ergyd arall i economi
bregus canol Ceredigion heddiw wrth i gwmni Lactalis McLelland gyhoeddi y
byddan nhw'n cau ymhen y mis. Daw'r newyddion lai na blwyddyn wedi i
Dairygold gyhoeddi eu bod yn diswyddo 115 o weithwyr ar eu safle yn
Felin-fach. Bydd cau Ffatri Gaws Dyffryn Aeron, ganllath o safle
Dairygold House, yn arwain at golli 44 o swyddi. Mwy o wybodaeth o wefan y BBC
Rhybudd arall i Dairygold!
Chwefror 19eg, 2007: cyhoeddodd Carwyn Jones heddiw ei fod wedi
yn
bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cwmni Dairygold i sicrhau eu
bod yn ad-dalu grant cyhoeddus o £663,528. Mewn datganiad ar wefan
Cynulliad Cymru dywedodd: "Rydyn ni wedi bod yn trafod ers amseroedd
maith gyda Chwmni Dairygold i geisio adennill y grant, ond, yn
anffodus, ar sail safbwynt Dairygold mae'n ymddangos mai cymryd camau
cyfreithiol yw'r unig opsiwn sy'n agored i ni." darllen mwy
|
|
Beth yw ein nod
Ei gwneud yn amhosib i Dairygold i fogi’r safle a’i ddefnyddio fel
ased ar eu llyfrau. Os yw hyn yn golygu lansio boicot ar nwyddau
Dairygold, dyna beth wnawn ni. Os yw’n golygu brwydro ar eu tir nhw a
theithio i Iwerddon i bicedu a phrotestio, dyna beth wnawn ni. Fe fydd
ein brwydr yn parhau nes bod safle Ffatri Bacio Caws Dyffryn Aeron,
gafodd ei ariannu ag arian cyhoeddus o’n pocedi ni, yn cael ei
ddefnyddio unwaith eto i gyflogi pobl.
|
Cyfarfod â Carwyn Jones
Ar 29 Tachwedd 2006 cyfarfu Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Sioe Drwg yn Caws, Euros Lewis, ac un o actorion y sioe, Owen Llywelyn, â'r Gweinidog Materion Gwledig Carwyn Jones i drafod dyfodol y ffatri wag yn Nyffryn Aeron. darllen mwy
|
 |
Gweithredu yn arwain at newid
Mae protest wnaeth ddilyn Sioe Drwg yn y Caws ar Nos Iau Medi 21 2006 wedi
arwain at gyhoeddiad ar Ddydd Llun Medi 25 gan Lywodraeth Cynulliad
Cymru. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Carwyn Jones ei fod yn
ystyried erlyn Cwmni Dairygold darllen mwy |
 |
|
If you are having difficulty in changing language then click here and try again in the new window that opens, or enable cookies on your browser.
|
|
|
|